Mae Prif Weinidog Llywodraeth San Steffan wedi mynnu nad oedd oedd yna “ddim budd i’w ddatgan” ynglŷn â’i berthynas gyda Americanes tra’n faer Llundain.

Ddydd Gwener cafodd Boris Johnson ei gyfeirio at gorff cwynion yr heddlu i asesu os y dylai wynebu ymchwiliad troseddol ynglŷn â’i berthynas gyda’r gyn-fodel Jennifer Arcuri.

Dywed The Sunday Times ei bod hi wedi ymddiried mewn pedwar o ffrindiau eu bod wedi dyweddio yn ystod carwriaeth pan oedd yn faer.

Mae hyn yn dilyn adroddiadau yn y papur y rhoddwyd £126,000 o arian cyhoeddus iddi, yn ogystal â mynediad i dair taith masnach a arweinwyd gan Boris Johnson tra’n Faer.

‘Camymddwyn mewn swydd gyhoeddus’

Mae Stryd Downing wedi gwrthod ymateb i’r adroddiadau.

Mae’r Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ystyried os oes oes seiliau i ymchwilio’r Prif Weinidog am y drosedd o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Yn ôl y stori yn The Sunday Times, roedd Ms Arcuri wedi dweud wrth rhai o’i ffrindiau ei bod yn cysgu gyda Mr Johnson.

Yn 2004 cafodd Boris Johnson ei ddiswyddo o fainc flaen y Toriaid ynghylch ei garwriaeth gyda ei gyn-gydweithwraig ar gylchgrawn The Spectator, Petronella Wyatt.

Roedd straeon wedyn yn 2006 fod y tad priod i bedwar wedi cael perthynas gyda Anna Fazackerley o’r Times Higher Education Supplement.

Penderfynodd Llys yr Apel yn 2013 fod gan y cyhoedd hawl i wybod ei fod yn dad i ferch yn sgil perthynas arall gyda Helen Macintyre, tra’n faer Llundain yn 2009.

Mae Boris Johnson a’i ail wraig Marina Wheeler wedi gwahanu ac wedi dechrau camau i ysgaru y llynedd. Mae e nawr yn byw yn Downing Street gyda chyn weithrwaig i’r Blaid Doriaidd, Carrie Symonds, 31.