Joanna Yeates
Fe fydd cariad Joanna Yeates yn rhoi tystiolaeth yn yr achos llofruddiaeth ym Mryste heddiw.

Fe fydd Greg Reardon, a ffrind agos i’r cwpl Rebecca Scott, yn cael eu holi ynglŷn â’u cysylltiad olaf gyda Joanna Yeates ar y noson y cafodd ei lladd ym mis Rhagfyr y llynedd.

Ar y noson hwnnw, mae’n debyg bod Joanna Yeates wedi dweud wrth un o’i chydweithwyr nad oedd hi’n edrych ymlaen at dreulio’r penwythnos heb ei chariad Greg Reardon tra ei fod yn ymweld â’i deulu yn Sheffield.

Mae Vincent Tabak, 33, wedi cyfaddef iddo ei lladd ond yn gwadu llofruddio’r pensaer 25 oed.