Mae undebau’n galw ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd yn sefyllfa’r cwmni gwyliau Thomas Cook, yn dilyn y cyhoeddiad fod cangen Almaenig y cwmni’n derbyn cymorth.

Bydd llywodraeth yr Almaen yn ariannu Condor am chwe mis gyda gwerth £350m o gymorth.

Mae miloedd o weithwyr yng ngwledydd Prydain wedi colli eu swyddi ac yn wynebu cryn her i gael eu talu ar ôl i’r cwmni fynd i’r wal ddydd Llun (Medi 23).

Mae Brian Strutton, ysgrifennydd cyffredinol undeb Balpa ar gyfer peilotiaid, yn cwestiynu pam nad yw’r un gefnogaeth ar gael yng ngwledydd Prydain â’r hyn sy’n cael ei gynnig yn yr Almaen.

“Sut cafodd ei ariannu, oherwydd mae’n ymddangos nad oes unrhyw beth ar ôl yng nghoffrau staff y Deyrnas Unedig?” meddai, cyn ychwanegu fod yr helynt yn “sgandal genedlaethol”.

Dywed Manuel Cortes, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Staff Trafnidiaeth Cyflogedig, y dylai Boris Johnson “fyw yn y byd go iawn”, a chynnig cefnogaeth i’r gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio.

Mae’n dweud bod llywodraeth Prydain yn “anfoesol” ac mae’n eu cyhuddo o “fethu â chodi bys bach i achub 9,000 o swyddi”.

Teithwyr wedi cael eu heffeithio

Yn ôl Richard Moriarty, prif weithredwr Awdurdod Sifil Awyrennau’r Deyrnas Unedig, fod 95% o bobol yn cael teithio ar y dyddiadau roedden nhw am deithio.

Mae bron i 30,000 o bobol wedi cael mynd adref i wledydd Prydain, meddai, a hynny ar fwy na 130 o deithiau.

Mae’r broses hon yn cael ei galw’r ymdrech fwyaf erioed i ddychwelyd pobol adref i wledydd Prydain mewn cyfnod o heddwch.

Mae’n dweud bod disgwyl i’r rhan fwyaf o bobol eraill sydd wedi trefnu eu gwyliau trwy law Thomas Cook fynd adref ar y dyddiadau disgwyliedig, neu’n fuan ar ôl y dyddiad hwnnw.