Protestio y tu allan i'r Gyfnewidfa yn Llundain
Llwyddodd heddlu yn Llundain i atal protestwyr gwrth-gyfalafiaeth rhag meddianu’r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain.

Roedd y protestwyr yn cymeryd rhan mewn ymgyrch i gynnal protestiadau mewn dinasoedd ym mhedwar ban byd trwy gydol y dydd yn erbyn trachwant corfforaethol honnedig a thoriadau gan lywodraethau oherwydd y sefyllfa economaidd.

Roedd y protestwyr yn cymeryd rhan mewn ymgyrch i gynnal protestiadau mewn dinasoedd ym mhedwar ban byd trwy gydol y dydd yn erbyn trachwant corfforaethol honnedig a thoriadau gan lywodraethau oherwydd y sefyllfa economaidd.

Chafodd y gorymdeithwyr ddim mynd i mewn i Sgwar Paternoster ble mae’r Gyfnewidfa ar ôl i’r heddlu gael gwaharddiad llys i atal y cyhoedd rhag mynd yno. Aeth yr orymdiath o tua 500 o bobl wedyn yn ol at Eglwys Gadeiriol St Paul.

Dywed Scotland Yard bod 2 wedi cael eu harestio am ymosod ar yr heddlu.

Mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth yn Rhufain wrth i ddegau o filoedd o brotestwyr falu ffenestri siopau a llosgi ceir a baneri’r Eidal a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae sefyllfa economiadd yr Eidal gyda’r mwyaf bregus yn Ewrop.

Cafodd y dydd o brotest ei drefnu gan gefnogwyr mudiad ‘Occupy Wall Street’ yn yr Unol Daleithau a’r ‘Indignants’ yn Sbaen.

Mae’r trefnwyr yn credu y bydd protestio wedi digwydd mewn 82 o wledydd cyn diwedd y dydd a’r cyfan yn dod i benlllanw yn Efrog Newydd.

Yn ôl gwefan y trefnwyr y bwriad yw “dweud mewn un llais bod gwleidyddion a’r elite cyllidol y mae nhw’n eu gwasanaethu, mai ni y bobl fydd yn penderfynu ein dyfodol. Nid nwyddau ydym ni yn nwylo gwleidyddion”.

Yn Frankfurt yn yr Almaen, canolfan gyllidol Ewrop, protestiodd tua 5,000 o bobl y tu allan i Fanc Canolog Ewrop.

Mae slogannau blin wedi cael eu paentio ar furiau ym Madrid sef prifddinas Sbaen, gan honni bod gwleidyddion yn gwasanaethau’r banciau yn y wlad ac nid y trigolion.

Cynhaliwyd protestiadau llai mewn dinasoedd yn Seland Newydd, De Korea, Ynysoedd y Philippines, Taiwan a Hong Kong ac yn Sydney daeth 2,000 o bobl ynghyd y tu allan i brif fanc Awstralia.

Yn y cyfamser mae gweinidogion cyllid gwledydd G2 wedi dweud bod angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod y gronfa Ewropeaidd sefydlwyd i roi cymorth i wledydd mewn trafferthion ariannol yn cael yr effaith gorau posib.

Dywedodd Canghellor y DU George Osbourne y bydd pawb yn gadael Paris heb unrhyw gamddealltwriaeth am y pwysau ar wledydd yr Eurozone a’r ofn bod dyled yn mynd i ymledu o’r naill wlad i’r llall.