Oliver Letwin
Mae llefarydd ar ran Oliver Letwin, sy’n Weinidog yn y Cabinet, yn gwadu bod yna unrhyw “ddeunydd sensitif” yn y dogfennau gafodd eu taflu ganddo i finiau sbwriel mewn parc ger Stryd Downing.
Yn ôl y Daily Mirror, gwelwyd Mr Letwin, sy’n cynrychioli Gorllewin Dorset, yn taflu dros gant o ddogfennau, gan gynnwys llythyrau yn ymwneud â therfysgaeth a manylion personol rhai o’i etholwyr, bump gwaith yn ddiweddar.
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Letwin ei fod weithiau yn ymdrin â gohebiaeth seneddol ac etholaethol yn y parc gan gael gwared â chopiau o lythyrau yno. Ychwanegodd nad oedd y dogfennau ‘o natur sensitif’.
Roedd y dogfennau wedi cael eu rhwygo ond heb eu malu’n ddarnau mân ac felly roedd modd darllen y cynnwys.
Mae rhai dogfennau, sy’n dyddio o 27 Gorffennaf 2010 i 30 Medi 2011, yn cyfeirio at y Prif Weinidog, David Cameron a’r Canghellor George Osbourne, yn ogystal ac at y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Swyddfa Gartref a’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae cysylltiadau al Qaida efo Pacistan a “methiant” pennaethiaid y gwasanaethau cudd i gael at y gwirionedd ynlgyn â rhan Prydain mewn defnyddio technegau holi dadleuol hefyd yn cael eu trafod yn y dogfennau.