Ed Miliband - 'angen teimlad o frys'
Mae angen cyllideb frys i achub economi gwledydd Prydain, yn ôl yr arweinydd Llafur, Ed Miliband.
Roedd angen i Lywodraeth y Glymblaid ddangos rhagor o deimlad o frys “er mwyn tanio’r economi”, meddai wrth annerch mewn coleg cymunedol yn Essex.
Roedd y sefyllfa ariannol yn “argyfwng”, meddai, ac roedd angen i’r Llywodraeth newid cyfeiriad.
Masnach dramor yn well
Er hynny, roedd yna ychydig o newyddion da i’r Canghellor wrth i ffigurau allforio wella yn ystod mis Awst.
Fe syrthiodd y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae gwledydd Prydain yn ei werthu dramor a’r hyn y mae’n ei brynu i £7.8 biliwn ac mae gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu wedi codi i £25.5 biliwn, yr ucha’ ers dechrau cadw cofnodion o’r fath yn 1998.
Mae economegwyr wedi ymateb trwy ddweud y gallai hyn olygu twf yn yr economi yn ystod y tri mis diwetha’, ond fod problemau o hyd gydag allforio oherwydd trafferthion ardal yr Ewro.