Mae’r grŵp hawliau dynol Liberty wedi colli her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn erbyn pwerau gwyliadwriaeth torfol Llywodraeth gwledydd Prydain.

Fe heriodd Liberty rhannau o’r Ddeddf Pwerau Ymchwiliadol (IPA) sy’n caniatáu asiantaethau cudd-wybodaeth y Llywodraeth i gael mynediad at, a storio, data cyfathrebu, a chymryd rheolaeth o ddyfeisiau trydanol drwy hacio.

Yn ôl y grŵp mae pwerau’r Llywodraeth o dan y ddeddf, sy’n cynnwys yr hawl i gael mynediad at wybodaeth breifat pobol gwledydd Prydain, yn rhy eang ac felly yn torri hawliau preifatrwydd a rhyddid barn.

Heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 29) mae’r Arglwydd Ustus Singh a Mr Ustus Holgate wedi gwrthod honiad Liberty bod y ddeddf yn mynd yn erbyn cyfreithiau hawliau dynol.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Singh fod y ddeddf yn cynnwys nifer o “fesurau diogelu yn erbyn cam-drin pŵer posibl.”

Yn dilyn y dyfarniad dywedodd Megan Goulding, un o gyfreithwyr Liberty bod y dyfarniad yn “siomedig” ac y byddan nhw’n ei herio.