Liam Fox
Mae’r holi’n parhau tros gysylltiad yr Ysgrifennydd Amddiffyn gydag Adam Werritty, ac yn arbennig tros y trefniant ariannol rhyngddyn nhw.

Mae’r Blaid Lafur wedi codi rhagor o gwestiynau ar ôl i’r BBC honni fod criw o bobol fusnes gyfoethog yn talu i’r ‘ymgynghorydd gwleidyddol’ deithio gyda Liam Fox ar ymweliadau tramor.

Os yw’r honiad am y taliadau’n wir a’r Ysgrifennydd Amddiffyn heb ddatgelu hynny, os yw Adam Werritty wedi bod yn ymgynghorydd answyddogol ac elwa o’r berthynas, fe allai hynny fod yn groes i god y gweinidogion.

Dyna yw cyhuddiad y llefarydd Llafur, Jim Murphy, sy’n dweud na all Liam Fox aros yn ei swydd os yw’r amheuon yn parhau.

Ymchwiliad

Ond mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi galw ar i bobol ddal eu dŵr nes y bydd ymchwiliad swyddogol wedi’i gwblhau gan bennaeth Swyddfa’r Cabinet, Gus O’Donnell.

Mae wedi dod yn amlwg fod Adam Werritty wedi bod ar 18 o deithiau tramor gyda Liam Fox ac wedi bod mewn cyfarfodydd swyddogol.

Un ddamcaniaeth yw ei fod yno er mwyn cynrychioli safbwyntiau asgell ddei.

Mae rhai o’r bobol yn y cyfarfodydd hynny wedi dweud eu bod dan yr argraff bod y dyn 33 oed yn gweithio’n swyddogol i’r Ysgrifennydd Amddiffyn.

Sïon

Mae sïon hefyd am fywyd preifat Liam Fox ar ôl iddi ddod yn amlwg bod dyn ifanc yn ei fflat pan dorrodd lladron i mewn iddo yn 2010 – ar y pryd, y stori gyhoeddus oedd fod y fflat yn wag am fod gwraig yr Ysgrifennydd Amddiffyn oddi cartre’.

Mae Liam Fox ei hun wedi gwadu’n llwyr fod ganddo ddim i’w guddio, gan ddweud ei fod wedi rhoi gwybod i’r heddlu ar y pryd nad oedd y fflat yn wag.