Mae Boris Johnson yn dweud ei fod yn teimlo “gwewyr” yn sgil helynt Nazanin Zaghari Ratcliffe, dynes o Loegr sydd wedi’i charcharu yn Iran.

Mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “flin” dros ei theulu, ond ei fod yn rhoi’r bai ar awdurdodau Iran.

Cafodd ei holi ar raglen Sophy Ridge on Sunday am ei sylwadau yn 2017 fod y ddynes wedi mynd i Iran er mwyn dysgu newyddiaduraeth.

Roedd Boris Johnson yn Ysgrifennydd Tramor San Steffan pan gafodd hi ei harestio wrth deithio i Iran gyda’i merch fach yn 2016.

Cafodd hi ei charcharu am bum mlynedd ar amheuaeth o ysbïo, ond mae hi’n gwadu’r cyhuddiadau.

‘Blin’

“Dw i’n teimlo’n flin drosti, ei merch, ei gŵr Richard, a dw i wedi dweud hyn droeon,” meddai Boris Johnson.

“Dw i’n teimlo gwewyr mawr iawn am yr hyn mae hi wedi bod yn mynd drwyddo.”

Mae hi newydd ddod ag ympryd i ben ar ôl 15 diwrnod, yn dilyn protest yn erbyn ei charcharu’n annheg, a bu ei gŵr yn ei chefnogi drwy ymprydio hefyd y tu allan i lysgenhadaeth Iran yn Llundain.