Flwyddyn wedi ymosodiad Salisbury, mae disgwyl i Theresa May a Vladimir Putin gwrdd wyneb yn wyneb yn ystod cynhadledd G20 yn Osaka, Japan.

Mae’r awdurdodau yn credu mai gwasanaethau cudd Rwsia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad nwy gwenwynig yn y ddinas yn Lloegr.

Ond mae Arlywydd Rwsia wedi gwadu hynny gan alw’r ymateb i’r achos yn “ffwdan tros ysbiwyr”.

Â’r ddau’n debygol o gwrdd â’i gilydd yn Japan, mae Theresa May wedi dweud y bydd yn cyfleu ei safiad hithau ar y mater yn “hollol glir”.

“Ddim yr un fath”

“Fydd pethau ddim yr un fath rhyngom ni,” meddai’r Prif Weinidog wrth ITV News. “Fydd pethau ddim yr un fath tan eu bod yn stopio gweithredu fel hyn o gwmpas y byd.

“Yn y Deyrnas Unedig gwelsom nwy – arf cemegol – ar strydoedd Salisbury. Dw i eisiau gweld unigolion, sydd eisoes wedi’u cyhuddo, yn dod o flaen eu gwell.”

Mae Theresa May hefyd wedi dweud bod y gynhadledd yn gyfarfod i rannu “neges glir, o un arweinydd i’r llall”.

Y cefndir

Credir bod Rwsia wedi ceisio lladd y cyn-ysbïwr Sergei Skripal, a’i ferch, Yulia, ym mis Mawrth 2018.

Mi oroesodd y pâr yr ymosodiad, ond ym mis Gorffennaf y llynedd bu farw Dawn Sturgess ar ôl dod ar draws deunydd cemegol o’r enw Novichok.

Mae’r awdurdodau yng ngwledydd Prydain yn credu mai dau ddyn o Rwsia – Alexander Petrov a Ruslan Boshirov – oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ym mis Mawrth.