Mae ymgeisydd arweinyddiaeth y Torïaid, Boris Johnson, “yn hiliol” a “ddim yn ffit i fod yn brif weinifog,” yn ôl arweinydd SNP yn San Steffan.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ian Blackford: “A ydi’r Prif Weinidog yn sylwi nad yw’r aelod yn unig yn hiliol, ond mae hefyd yn creu rhaniadau o fewn cymunedau ac mae ganddo record o ddweud celwydd?”

Daeth y sylw ar öl i’r Aelod Seneddol Llafur, Virendra Sharma, alw polisiau menfudo Theresa May yn rhai “hiliol”.

Yn dilyn fe alwodd Llefarydd y Tŷ, John Bercow, ar Ian Blackford i “feddwl am ei eiriau” wrth i Aelodau Seneddol Toriaidd alw arno i dynnu ei eisiau yn ôl.

Mewn ymateb dywedoff Ian Blackford, “mae’r aelod wedi galw menywod Mwslimaidd yn ‘flychau postio’, wedi disgrifio pobol Affricanaidd fel pobol a gwên fel melonau dwr, a phethau eraill na fyddwn i fyth yn eu hail-adrodd.

“Os nad yw hynny’n hiliol, Mr Llefarydd, wn i ddim beth sydd.”