Mae’r heddlu yn ymchwilio i bum honiad o gamymddwyn yn is-etholiad Peterborough, ble enillodd Llafur o 683 pleidlais.

Ymhlith y pum honiad mae tri wedi’u cysylltu â phleidleisiau post, un â llygredd a llwgrwobrwyo ac un arall â thorri rheolau preifatrwydd y bleidlais, meddai Heddlu Swydd Caergrawnt.

Cafodd ymgeisydd Llafur, Lisa Forbes, ei hethol yno yn dilyn yr isetholiad ar Fehefin 6, a daeth Plaid Brexit Nigel Farage yn ail.

Dywedodd Cyngor Peterborough ar Fehefin 10 ei fod wedi derbyn adroddiad, sydd heb ei gadarnhau, yn ymwneud â honiad o lwgrwobrwyo cyn diwrnod y bleidlais.

Cafodd hyn ei gyfeirio at yr heddlu ond nid oes camau pellach yn cael eu cymryd, meddai’r awdurdod.

Yn ôl y Cyngor nid oes tystiolaeth bod twyll wedi digwydd mewn cysylltiad â phleidlais bost.

Cafodd yr is-etholiad ei gynnal yn Peterborough ar ôl i’r cyn-Aelod Seneddol Llafur Fiona Onasanya gael ei gwahardd o’r blaid ar ôl cael ei charcharu am ddweud celwydd am drosedd gor-yrru.