Fe fydd San Steffan yn atal prif weinidog newydd Prydain rhag ceisio ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ôl Hilary Benn, yr aelod seneddol Llafur.

Cafodd cynnig Llafur i geisio sicrhau y gallai’r Senedd gymryd rheolaeth o’r sefyllfa ei drechu yr wythnos ddiwethaf.

Mae Hilary Benn yn dweud na fyddai’n “gynaladwy” i’r prif weinidog newydd anwybyddu pleidlais gan aelodau seneddol sy’n gwrthwynebu Brexit heb gytundeb.

Boris Johnson yw’r ffefryn clir i olynu Theresa May ar hyn o bryd, wrth i’r bleidlais o fewn y Blaid Geidwadol barhau.

‘Sgandal’

“Fe fydd pwy bynnag sy’n ennill ras arweinyddol y Torïaid yn dychwelyd ac yn darganfod yr un niferoedd yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Mae’n mynd i fod yn anodd.

“Mae yna un neu ddau o opsiynau gan ddefnyddio llyfr rheolau’r senedd i alluogi aelodau seneddol i wneud eu gwaith, sef lleisio eu barn”

Mae hefyd yn rhybuddio na ddylai’r prif weinidog newydd ddirwyn y Senedd i ben er mwyn atal ymadawiad heb gytundeb.

“Byddai’n sgandal pe defnyddid hynny, ar y cyfan, i geisio cau drysau Tŷ’r Cyffredin fel na all aelodau seneddol gyfarfod na lleisio barn.