Bydd Aelodau Seneddol Ceidwadol yn cynnal y gyntaf mewn cyfres o bleidleisiau heddiw (dydd Iau, Mehefin 13) er mwyn dewis olynydd i Theresa May.

Y ffefryn ar hyn o bryd, Boris Johnson, a’r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, oedd yr olaf allan o’r 10 ymgeisydd i lansio eu hymgyrchoedd ddoe, wrth i’r frwydr am gael bod yn Brif Weinidog ddwysáu.

Mae angen o leiaf 17 pleidlais ar bob ymgeisydd er mwyn cyrraedd yr ail rownd o bleidleisiau.

Bydd unrhyw un sydd â llai na hynny yn gorfod camu o’r neilltu. Yr un yw’r rheol hefyd ar gyfer yr ymgeisydd fydd yn derbyn y nifer leiaf o bleidleisiau – hyd yn oed yn os ydyn nhw wedi derbyn yr 17 pleidlais angenrheidiol.

Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal rhwng 10yb a 12yp heddiw, gyda disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi am 1yp.