Mae ywodraeth San Steffan yn ymgynghori ynghylch a ddylid ychwanegu asid ffolig at flawd mewn ymgais i dorri ar y nifer o fabanod sy’n cael ru geni â nam arnyn nhw.

Mae’r ymgynghoriad 12 wythnos yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan elusennau sy’n cynrychioli pobol â spina bifida.

Ar hyn o bryd, cynghorir menywod beichiog i gymryd atchwanegiad asid ffolig cyn cenhedlu ac am 12 wythnos gyntaf y beichiogrwydd i leihau’r risg y bydd eu baban yn datblygu spina bifida neu anencephaly.

Ond mae rhai menywod yn anghofio cymryd y tabledi, neu.ddim yn dod i ddeall am y cyngor, neu hyd yn oed ddim yn sylwi eu bod yn disgwyl nes ei bod yn rhy hwyr.

O dan y cynlluniau i atgyfnerthu blawd, mae arbenigwyr yn rhagweld y gellid atal tua 200 o nam geni y flwyddyn.

Mae asid ffolig yn cael ei ychwanegu at fwyd mewn mwy na 60 o wledydd y byd, yn gynnwys Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau.