Mae ymgyrchwyr Tŵr Grenfell y annog y prif weinidog nesaf yn San Steffan i fod “ar ochr iawn hanes” wrth nodi pen-blwydd y tân.

Pwy bynnag sy’n cymryd drosodd gan Theresa May – a gamodd i lawr o fod yn arweinydd Torïaid ddydd Gwener diwethaf (Mehefin 7)- mae’n rhaid dysgu gwersi o’r trychineb, meddai Karim Mussilhy, a gollodd ei hewythr yn y tân.

Roedd Hesham Rahman yn un o’r 71 o bobol i farw yn y tân yng ngorllewin Llundain ar Fehefin 14, 2017, a bu farw un arall o’i anafiadau fisoedd yn ddiweddarach.

Ac yfory (dydd Gwener) yn nodi dwy flynedd ers y tân, fe fydd goroeswyr a galarwyr yn ymgasglu ger y tŵr i gofio am eu hanwyliaid.

“Mae yna sawl Tŵr Grenfell arall allan yna,” meddai Karim Mussilhy, 33.

“Dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd yn dod i olynu Theresa May, ac a dweud y gwir, dydi o ddim ots pwy fydd nesa’, oherwydd fe fyddwn ni’n dal i roi pwysau arnyn nhw…

“Pwy bynnag fydd y prif weinidog newydd, peidiwch ag anghofio Grenfell. Byddwch ar ochr iawn hanes.”