Mae bachgen yn ei arddegau wedi cael ei arestio a’i gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth merch ysgol 15 oed chwe mis yn ôl.

Fe gafodd corff Mhari O’Neill o Willowbrae ei ganfod yn Calton Hill. Caeredin, ar Ragfyr 8 y llynedd, wedi iddi fod ar goll ers oriau mân y diwrnod hwnnw.

Heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 11) mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod dyn 18 oed wedi cael ei arestio a’i gyhuddo.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Siryf Caeredin heddiw.