Mae dynes a oedd yn cerdded gyda’i phlentyn yn yr awyr agored yn Llundain wedi cael ei thrywanu gan leidr ifanc.

Roedd yr ymosodwr, a oedd rhwng 14 ac 16 oed, wedi twyllo’r ddioddefwraig drwy esgus gofyn am gyfarwyddiadau i Heol Caedmon, Islington, toc cyn 5yp ddydd Gwener (Mehefin 7).

Fe fynnodd y bachgen gael ffôn symudol y ddynes ac wedi iddi wrthod ei roi iddo, fe gafodd ei thrywanu yn ei choes.

Yn ôl yr Heddlu Metropolitan, mae’r llanc, sy’n cael ei ddisgrifio’n bum troedfedd a thair modfedd o daldra ac yn dywyll ei groen, yn dal i fod ar ffo.

Mae swyddogion ar hyn o bryd yn gwneud ymholiadau yn yr ardal leol ac yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar unwaith.