Dr Liam Fox
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox yn brwydro i gadw ei yrfa wleidyddol heddiw wrth i ffrae ynglŷn â’i berthynas â ffrind agos ddwyshau.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron benderfynu ei dynged yfory. Mae David Cameron wedi galw ar bennaeth y gwasanaeth sifil i adrodd yn ôl yn dilyn ymchwiliad mewnol i gysylltiadau Liam Fox â Adam Werritty.

Mae’n dilyn honiadau bod Adam Werritty wedi trefnu cyfarfodydd i Liam Fox, a’i fod wediymweld â swyddfeydd y Weinyddiaeth Amddiffyn sawl gwaith er nad oes ganddo swydd benodol yn y Senedd.

Mae Liam Fox eisoes wedi dweud nad oes unrhyw sail i’r honiadau am ei berthynas â’i ffrind.