Mae llanc 17 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Jodie Chesney, 17, yn Romford yn Essex.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fod â dryll llonyddu yn ei feddiant.

Bydd yn mynd gerbron ynadon Barkingside ddydd Llun (Mai 27).

Bu farw Jodie Chesney ar ôl iddi gael ei thrywanu yn ardal Harold Hill ar Fawrth 1.

Mae pedwar o bobol bellach wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas â’i marwolaeth.

Mae disgwyl i Manuel Petrovic, Svenson Ong-a-kwie a llanc 16 oed fynd gerbron yr Old Bailey ar Fedi 2.

Mae dyn 50 oed a dynes 38 a gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.