Mae dau fachgen wedi marw yn dilyn digwyddiad mewn eiddo yn Sheffield, ac mae pedwar o blant eraill yn yr ysbyty.

Bu farw’r ddau, oedd yn 13 a 14 oed, ar ôl cael eu cludo i’r ysbyty fore ddoe (dydd Gwener, Mai 24).

Dydy bywydau’r plant eraill, sy’n 11, 10 a naw oed, ddim mewn perygl ond maen nhw’n derbyn triniaeth am fân anafiadau.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Shiregreen am oddeutu 7.30yb.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau beth oedd union natur y digwyddiad.

Mae dyn 37 oed a dynes 34 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio, a dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall.