Mae Theresa May wedi cyhoeddi y bydd hi’n ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol ar Fehefin 7, gyda’r ras i ddewis ei holynydd yn cychwyn y diwrnod hwnnw.

Ond nid oes disgwyl iddi roi’r gorau i fod yn Brif Weinidog ar wledydd Prydain tan fis Gorffennaf, yn dilyn ymweliad gan Donald Trump.

Mewn araith ddagreuol y tu allan i Rif 10 Downing Street y bore yma (dydd Gwener, Mai 25), fe ddywedodd y Prif Weinidog ei bod hi wedi “gwneud ei gorau” i geisio sicrhau sêl bendith i’w chytundeb Brexit, ond ei bod hi bellach yn cydnabod iddi fethu.

“Fe fydda i’n difaru am byth na wnes i lwyddo i ddarparu Brexit,” meddai Theresa May.

Wrth gyhoeddi manylion ei hymadawiad, bu Theresa May yn tollti dagrau wrth ddweud mai “anrhydedd mwyaf ei bywyd” oedd cael bod yn Brif Weinidog ar wledydd Prydain.

“Yr ail Brif Weinidog benywaidd”

Ers y cyhoeddiad mae nifer o wleidyddion wedi talu teyrnged i Theresa May, gan gynnwys arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

“Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fe hoffwn ddiolch i’r Prif Weinidog am ei hymroddiad a’i hymrwymiad i Gymru dros y blynyddoedd y mae hi wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth,” meddai.

“Mae’n dipyn o beth i fod yr ail Brif Weinidog benywaidd, a gamodd i’r swydd mewn cyfnod anodd.

“Mae’n rhaid i’r blaid uno yn awr er mwyn sicrhau’r Brexit mae pobol wedi pleidleisio amdano.”