Fe fydd Llywodraeth gwledydd Prydain yn rhoi tua £200m er mwyn ariannu’n llwyr y gwaith o adnewyddu adeiladau tebyg i floc o fflatiau Tŵr Grenfell.

Fe fydd tua 170 o adeiladau preswyl yn cael eu hadnewyddu i sicrhau nad oes trychineb fel hi yn digwydd eto, pan fu farw 72 o bobol.

Mae adroddiadau wedi dangos nad oedd cladin yn waliau Tŵr Grenfell yn ddigon diogel i atal tan rag lledaenu.

Dywed Llywodraeth fod y camau’n cael eu cymryd oherwydd “methodd perchnogion adeiladau preifat i weithredu gan geisio dadlwytho costau ar lesddeiliaid”.

“Mae’n hollbwysig bod pawb yn gallu teimlo a bod yn ddiogel yn eu cartrefi,” meddai’r Prif Weinidog, Theresa May.

“Heddiw gallaf gadarnhau y byddwn yn awr yn ariannu’r gwaith o amnewid cladin ar adeiladau preswyl preifat uchel fel y gall trigolion deimlo’n hyderus eu bod yn ddiogel yn eu cartrefi.”