Mae un o bob pump swyddog yr heddlu yn dioddef o drawma (PTSD), yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, mae’r darganfyddiadau yn awgrymu bod dau draean o’r rhain yn anwybodol eu bod yn dioddef o’r cyflwr.

O ganlyniad, mae arbenigwyr yn rhybuddio bod “argyfwng clinigol a sector cyhoeddus” ar ôl i’r arolwg o bron i 17,000 o swyddogion a staff ddangos bod cyfraddau trawma bron i bum gwaith yn uwch na’r boblogaeth ehangach.

“Brawychus”

Cafodd yr ymchwil ei chynnal ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn ystod yr hydref y llynedd.

Mae’n dangos bod 90% o weithwyr yr heddlu wedi bod yn destun i drawma.

Dywed ymgyrchwyr bod y ffaith nad oes dull unedig gan heddluoedd i fynd i afael ar y broblem yn galw am sefydlu strategaeth iechyd meddwl plismona.

Yn ôl Dr Jess Miller, wnaeth arwain yr ymchwil, mae lefelau PTSD yr astudiaeth a ddarganfuwyd yn “frawychus” ac mae’n rhybuddio bod “agwedd styfnig” yn amhriodol ar gyfer plismona modern.

“Mae delio â phrofiadau annifyr yn rhan ddiffiniol o blismona, ond mae gan weithwyr yr hawl i ddisgwyl adnoddau i’w hamddiffyn rhag effaith trawma dyddiol. Heb adnoddau o’r fath, bydd cost plismona a diogelwch y cyhoedd yn cynyddu.”