Mae Mike Russell yn dweud bod gwireddu breuddwyd yr SNP o sicrhau annibyniaeth i’r Alban “o fewn ein gafael”.

Daw ei sylwadau wrth i’r blaid gynnal ei chynhadledd wanwyn yng Nghaeredin.

Yn ôl pôl piniwn diweddaraf YouGov, sydd wedi’i gyhoeddi yn y Times, mae 49% o boblogaeth yr Alban bellach o blaid annibyniaeth.

“Mae ein hymgyrch ymhell o fod wedi’i hennill,” meddai.

Ond mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain yn “ofni” y mudiad tros annibyniaeth, ar ôl gwrthod yr hawl i’r wlad gynnal ail refferendwm yn dilyn yr ymgais aflwyddiannus yn 2014.

Yn ôl Mike Russell, y llywodraeth bresennol yw’r “fwyaf trahaus” erioed.

Brexit

Ac mae’n rhybuddio bod “polisi gwenwynig” Brexit yn “ergyd ddinistriol” i’r Alban a fydd yn “dinistrio miloedd o swyddi”, yn “gyrru trigolion talentog yr Undeb Ewropeaidd i ffwrdd”, yn “tanseilio diwydiant” ac yn “gyrru pobol allan o ardaloedd gwledig”.

Mae hefyd yn cyhuddo San Steffan o fod yn anwybodus a hen-ffasiwn.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes wedi amlinellu cynlluniau’r blaid i gynnal ail refferendwm cyn etholiadau Holyrood yn 2021.

Mae Mike Russell yn dweud bod yr ymgyrch yn 2014 wedi bod yn “brofiad oedd wedi uno”.

“Mae angen i ni annog pawb sy’n byw yma i chwarae eu rhan wrth adeiladu ein stori genedlaethol newydd,” meddai.

“Fyddwn ni ddim yn gwneud hynny o’u hanwybyddu nhw na’u sarhau nhw, na thrwy eu herio nwh mewn ffyrdd nad oes modd iddyn nhw ymateb iddyn nhw.

“Dim ond trwy gydweithio â nhw a gwrando arnyn nhw y gwnawn ni hynny oherwydd, o wneud hynny, fe fyddwn ni’n dod yn gryfach.”