Dylai Albanwyr gael y cyfle i ddewis rhwng Brexit ac annibyniaeth cyn etholiadau nesaf Holyrood yn 2021, yn ôl Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban.

Dyna ei barn mewn datganiad gerbron aelodau seneddol yr Alban.

“Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth yr Alban yn gweithredu er mwyn sicrhau bod yr opsiwn o roi dewis i bobol ar annibyniaeth yn mynd rhagddo’n ddiweddarach yn y tymor seneddol hwn,” meddai.

Mae hi’n cyhuddo San Steffan o fethu â gwarchod buddiannau’r Alban.

“Beth bynnag am statws cyfansoddiadol yr Alban yn y dyfodol, fe fydd cael y berthynas agosaf bosibl â’r Undeb Ewropeaidd bob amser o fudd i ni,” meddai wefyn.

“Rydym wedi gwneud popeth posib er mwyn atal argyfwng Brexit i’r Deyrnas Unedig gyfan. A byddwn yn parhau i wneud hynny.”

Mae hi’n dweud nad yw’r drefn yn San Steffan yn addas ar gyfer yr Alban, a bod y cytundeb datganoli presennol yn “gwbl annigonol” o dan yr amgylchiadau presennol.

Ymateb Downing Street

Wrth ymateb i ddatganiad Nicola Sturgeon, mae Downing Street yn mynnu nad yw eu barn am annibyniaeth i’r Alban wedi newid.

Mae Theresa May eisoes wedi datgan ei gwrthwynebiad i gynnal refferendwm.

Mae Ceidwadwyr yr Alban yn dweud bod galw am ail refferendwm yn benderfyniad “abswrd”, ac mae Llafur yr Alban yn cyhuddo Nicola Sturgeon o “ddefnyddio’i swydd yn Brif Weinidog i roi buddiannau’r SNP cyn buddiannau’r wlad”.

Ond mae Plaid Werdd yr Alban yn ategu’r alwad am ail refferendwm, gan ddweud y dylai dyfodol yr Alban fod “yn ei dwylo ei hun”.