Mae Theresa May wedi rhoi caniatâd i gwmni Huawei o Tsieina i helpu adeiladu rhwydwaith 5G newydd gwledydd Prydain.
Daw hyn er y rhybuddion sydd wedi bod ynglŷn â bygythiad y cwmni i ddiogelwch cenedlaethol.
Fe gytunodd y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol, sydd yn cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog, ar ddydd Mawrth (Ebrill 23) i ganiatáu mynediad cyfyngedig i Huawei i adeiladu antenau, a phethau sydd ddim wrth graidd y rhwydwaith newydd.
Rhybuddion
Yn ol papur y Telegraph, roedd yr Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Tramor Jermy Hunt, a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson wedi codi eu pryderon ynglŷn â’r pryderon.
Daw’r penderfyniad hefyd yn dilyn nifer o ffigurau diogelwch blaenllaw yn rhybuddio’r risg sydd yn dod gyda chaniatáu cwmni Tsieineaidd i gael mynediad i rwydwaith cyfathrebu gwledydd Prydain.
Dywed pennaeth M16, Alex Yonger, bod angen i wledydd Prydain benderfynu pa mor “gyfforddus” mae hi yn caniatáu i gwmnïau Tsieineaidd ddod yn rhan o’r rhwydwaith newydd.
Yn ol Jeremy Fleming, pennaeth Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth hefyd, mae “cyfleoedd a bygythiadau” yn dod gyda hyn.