Mae bachgen yn ei arddegau o Leeds wedi pledio’n euog i annog gweithredoedd brawychol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Michael Szewczuk, 19, wedi cyfaddef iddo annog dwy weithred, ac mae wedi pledio’n euog i bump achos arall o fod â dogfennau brawychol yn ei feddiant cyn iddo gael ei aresio ym mis Rhagfyr 2018.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â chyhoeddi negesuon ar wefan gymdeithasol Gab, ac o fod â chyhoeddiadau yn cynnwys The Anarchist CookbookWhite Resistance Manual yn ei feddiant.

Fe ymddangosodd yn yr Old Bailey ddydd Mawrth (Ebrill 23) ynghyd ag Oskar Dunn-Koczorowski, 18, o orllewin Llundain, a gyfaddefodd i ddau gyhuddiad o annog brawychiaeth.

Fe fydd y ddau’n cael eu dedfrydu ar Fehefin 17. Yn y cyfamser, maen nhw wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth amodol.