Mae Sinn Fein wedi codi amheuon am gyfeiriad yr Undeb Ewropeaidd, ar ôl cadarnhau y bydd unig Aelod Seneddol Ewropeaidd y blaid, yn sefyll yn yr etholiadau nesaf.

Mae’r arweinydd Mary-Lou McDonald yn mynnu bod y blaid yn parhau’n feirniadol o’r Undeb Ewropeaidd, ond “nad gadael yw’r ateb”, er bod “cwestiynau sylfaenol” i’w gofyn am gyfeiriad yr undeb.

Daw ei sylwadau wrth i Sinn Fein ymgynnull yng ngwesty Balmoral yn Belffast.

“Dylai Iwerddon gyfan fod yn yr Undeb Ewropeaidd, gan arwain Ewrop deg a chymdeithasol, gwrthwynebu ffederaleiddio a chreu byddin yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

Martina Anderson yw unig Aelod Seneddol Ewropeaidd y blaid ers 2012, ac mae’n dweud mai braint fydd cael amddiffyn ei sedd.

‘Mae Brexit ar ben’

Mae Mary-Lou McDonald yn gwrthwynebu Brexit, ac yn dweud bod y mwyafrif o bleidleiswyr o blaid aros.

Mae hi’n feirniadol o’r Ceidwadwyr a’r DUP am lusgo’u traed.

“Mae’r etholiad hwn yn gyfle i ddweud yn blwmp ac yn blaen wrth y Torïaid a’r DUP – mae eich amser chi ar ben, mae eich Brexit chi ar ben,” meddai.

“Mae Brexit yn dangos natur annemocrataidd rhaniadau.”

Dywed fod Brexit hefyd yn gyfle i ddangos na fydd Iwerddon yn “cael ei gadael ar ei hôl”.