Mae cannoedd, os nad miloedd, o siopwyr wedi heidio trwy ddrysau siop ddillad fwya’ Primark trwy’r byd i gyd.

Mae hi newydd agor ar stryd fawr Birmingham heddiw (dydd Iau, Ebrill 11), ac mae disgwyl i’r siop ddenu tua 5,000 o siopwyr yn ystod y dydd.

Mae’r adeilad pum llawr yn cynnwys tri chaffi, caffi thema Disney, ardal nwyddau Disney, stiwdio harddwch ac adran neilltuol i nwyddau Hogwarts a Harry Potter.

Mae arwynebedd y siop yn 160,000 troedfedd sgwâr, a dyma’r fwyaf o’i math o blith 365 o siopau gan Primark yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau.

Fe fydd y siop yn cyflogi rhagor na 1,000 o bobol, ac mae 500 o swyddi newydd wedi’u creu yno.