Mae chwe milwr o wledydd Prydain wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar filwr benywaidd.
Mae’r honiadau wedi arwain at gynnal ymchwiliad gan Gavin Williamson, Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan, i ymddygiad aelodau’r lluoedd arfog.
Mae’n dweud “nad oes lle i’r fath ymddygiad”, ac y byddan nhw’n cael eu cosbi os ydyn nhw’n euog.
Mae’r Pennaeth Staff Cyffredinol, Syr Mark Carleton-Smith yn dweud bod ymddygiad o’r fath yn “hollol annerbyniol”.
Wythnos wael i’r Fyddin
Daw’r honiadau diweddaraf ddyddiau’n unig ar ôl i fideo ddangos milwyr yn defnyddio llun Jeremy Corbyn ar gyfer ymarferion saethu.
Mae ymchwiliad ar y gweill i’r digwyddiad hwnnw.
Cawson nhw eu ffilmio yn Kabul yn Afghanistan.