Fe fu’r awdurdodau’n araf i ymateb i dwf eithafiaeth asgell dde o amgylch y byd, yn ôl Jeremy Corbyn.

Roedd yn ymateb i’r gyflafan yn Christchurch yn Seland Newydd, lle cafodd 50 o bobol eu saethu’n farw mewn dau fosg.

Gwraidd y broblem, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, yw’r ymosodiad ar ddinas Oklahoma yn 1995.

Fe gyfeiriodd ar Sky News at ymosodiad arall yn ei etholaeth ei hun yn Finsbury Park yn Llundain yn 2017, pan ymosododd dyn â fan ar Fwslimiaid.

“Rhaid i ni fod yn fwy ymwybodol o beryglon yr asgell dde eithafol,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday, gan ategu’r alwad gan ei ddirprwy Tom Watson ar i wefannau cymdeithasol wneud mwy i herio’r fath agweddau.

Dileu cynnwys

Dylid dileu cynnwys eithafol, meddai, wrth gyfeirio at ddeunydd a gafodd ei lwytho gan Brenton Tarrant, ymosodwr Christchurch.

Ond mae’n dweud bod angen rheoleiddio’r gwefannau hefyd.

“Dw i’n credu bod nifer o wasanaethau diogelwch o amgylch y byd wedi bod yn… sut allaf i ddweud… araf wrth ymchwilio i eithafiaeth asgell dde, yn mynd yn ôl mor bell â Timothy McVeigh yn yr Unol Daleithiau, ac ymosodiadau mwy diweddar gan gynnwys ymosodiad yn fy etholaeth fy hun pan gafodd Makram Ali ei ladd.”