Mae Theresa May, prif weinidog Prydain, yn rhybuddio y gallai gohirio Brexit atal ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd yn llwyr.

Mae’n bosib y gallai Brwsel geisio ymestyn y dyddiad ymadael pe bai aelodau seneddol yn San Steffan yn gwrthod cynllun Brexit Theresa May am y trydydd tro yr wythnos hon.

Ond byddai rhagor o oedi’n arwydd o “fethiant” Llywodraeth Prydain, meddai.

Pe na bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn Mawrth 29, mae posibilrwydd cryf y bydd rhaid cymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop am y cyfnod seneddol nesaf.

Bydd Cyngor Ewrop yn cyfarfod ddydd Iau, ac mae Theresa May yn rhybuddio na fydd Prydain yn cael gadael yr Undeb Ewropeaidd os na fydd cytundeb cyn hynny.

“Gallen ni a dylen ni adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29,” meddai.

“Ond mae [oedi] yn rhywbeth y byddai pobol Prydain yn ei dderbyn pe bai’n arwain at gyflwyno Brexit yn brydlon.

“Mae’r dewis amgen, pe na bai’r Senedd yn gallu cytuno ar gytundeb erbyn hynny, yn waeth o lawer.”

Neges mewn erthygl

Mewn erthygl yn y Sunday Telegraph, mae Theresa May yn dweud bod arweinwyr Ewrop yn disgwyl “pwrpas clir” er mwyn ymestyn yr ymadawiad.

“Pe bai’r cynnig yn mynd yn ei ôl i’r cam cyntaf a bod rhaid cael cytundeb newydd, byddai hynny’n golygu estyniad mwy o lawer – a bron iawn y byddai angen i’r Deyrnas Unedig gymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai,” meddai.

“Mae’n anodd meddwl am y syniad y gallai pobol Prydain fynd i’r gorsafoedd pleidleisio i ethol aelodau seneddol Ewropeaidd dair blynedd ar ôl pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Ni all fod yna arwydd mwy peryglus o fethiant gwleidyddol y Senedd at ei gilydd.”

Collodd ei chynnig o 149 o bleidleisiau yn yr ail bleidlais, ond gallai nifer o aelodau seneddol gael eu perswadio i’w gefnogi er mwyn sicrhau rhyw fath o gytundeb.