Mae’r Ceidwadwyr wedi ymddiheuro wrth gadeirydd cangen leol o’r blaid oedd wedi gadael yn sgil y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â chyhuddiad o Islamoffobia.
Fe ddaeth yr honiadau am y blaid i’r amlwg ar ôl i lythyron preifat gael eu rhyddhau.
Ymddiswyddodd Ajay Jagota o’r gangen leol yn South Shields yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, yn dilyn ei honiadau iddo gael ei sarhau a bod y blaid wedi methu ag ymateb i’w gwynion.
Mae’r wybodaeth wedi’i chynnwys yn ei lythyr at Brandon Lewis, cadeirydd y blaid, oedd hefyd wedi cael ei anfon at Theresa May.
Cafodd Ajay Jagota ymddiheuriad yn y pen draw gan David Beckingham ar ran prif weinidog Prydain.
Yn y llythyr hwnnw, fe gadarnhaodd fod ymchwiliad ar y gweill.
‘Problem sefydliadol’
Mae’r Farwnes Warsi, aelod o’r Blaid Geidwadol a’r ddynes Foslemaidd gyntaf i’w phenodi i Gabinet Llywodraeth Prydain, bellach yn galw am ymchwiliad i Islamoffobia “sefydliadol” honedig o fewn y blaid.
Mae hi’n rhybuddio bod methu â datrys y sefyllfa yn niweidio gobeithion y blaid o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf, a bod y broblem “wedi magu gwreiddiau” o fewn y blaid.
Mae hi hefyd yn cyhuddo Theresa May o fethu â gweithredu.