Mae dwy ferch sy’n briod ag aelodau Daesh, yr eithafwyr Islamaidd, wedi colli eu dinasyddiaeth Brydeinig, yn ôl adroddiadau.

Mae’r ddwy yn cael eu cadw mewn gwersylloedd gyda’u plant yn Syria.

Daw’r adroddiadau yn dilyn ffrae tros farwolaeth babi Shamima Begum, merch o Loegr sydd wedi colli ei dinasyddiaeth Brydeinig ar ôl teithio i Syria bedair blynedd yn ôl.

Mae gan y ddwy ferch bump o blant rhyngddyn nhw, a phob un o dan wyth oed.

Dydy’r Swyddfa Gartref ddim wedi gwneud sylw am yr achos, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n cymryd penderfyniadau o’r fath “yn ysgafn”.

Cefndir

Mae adroddiadau’r wasg yn dweud mai Reema Iqbal, 30, a’i chwaer Zara, 28, yw’r ddwy ferch dan sylw.

Mae eu rhieni’n dod o Bacistan yn wreiddiol.

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi gadael am Syria yn 2013.

Roedd Zara yn feichiog ar y pryd, a chafodd un o feibion Reema ei eni yng ngwledydd Prydain.

Mae Llywodraeth Prydain dan y lach ar hyn o bryd, ar ôl i Shamima Begum golli ei babi bach tair wythnos oed ar ôl iddi golli ei dinasyddiaeth Brydeinig.

Roedd hi wedi ffoi am Syria yn 15 oed a’r gred bellach yw y gallai hi geisio dinasyddiaeth yn Bangladesh.