David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi amddiffyn cynlluniau ei Lywodraeth i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) ar ôl i grŵp o feddygon ac arbenigwyr iechyd rybuddio y bydd yn gwneud “niwed anadferadwy” i’r gwasanaeth.
Mae mwy na 400 o arbenigwyr wedi anfon llythyr at Dŷ’r Arglwyddi yn eu hannog i wrthod mesur dadleuol y glymblaid am iechyd a gofal cymdeithasol pan fyddan nhw’n pleidleisio yn ddiweddarach yn y mis.
Yn y llythyr, mae nhw’n dweud: “Fe fydd y Mesur yn gwneud niwed anadferadwy i’r GIG, i’r cleifion a chymdeithas.”
Mae nhw’n dweud y bydd “masnacheiddio’r” GIG yn cael effaith andwyol.
Wrth amddiffyn y mesur, dywedodd Mr Cameron ei fod yn credu y byddai’r diwygiadau yn gwella’r gofal i gleifion, gan roi mwy o ddewis i gleifion ynglŷn â’r math o ofal mae nhw’n ei gael.