Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar Jeremy Corbyn, ar ôl taflu ŵy ato fe yn Llundain.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ger mosg yn Finsbury Park yn Llundain.

Roedd arweinydd y Blaid Lafur yn ymweld â’r mosg ar y pryd, a doedd e ddim wedi cael ei anafu.