Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i fachgen 16 oed gael ei drywanu i farwolaeth yn Birmingham.

Fe ddaethpwyd o hyd i fachgen yn ei arddegau yn farw yn Small Heath tua 8yh neithiwr (nos Fercher, Chwefror 20), ac fe gafodd Heddlu’r West Midlands eu galw i ddelio â’r mater.

Fe gafodd bachgen arall, 15 oed, ei drin gan barafeddygon wedi iddo yntau ddiodde’ ymosodiad.

Mae’r heddlu wedi cau’r ardal i ffwrdd tra’u bod yn archwilio’r ardal ac yn mynd o ddrws i ddrws yn holi pobol leol.