Mae dyn wedi mynd gerbron ynadon, wedi’i gyhuddo o lofruddio tri o bobol oedrannus yng Nghaerwysg (Exeter).

Mae Alexander Lewis-Ranwell o ogledd Dyfnaint wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae e wedi’i gyhuddo hefyd o achosi niwed corfforol bwriadol i John Ellis yn Barnstaple ar Chwefror 9 ac ar Stasys Belevicius yng Nghaerwysg ar Chwefror 11.

Cafodd Anthony Payne, 80, a Dick a Roger Carter, 84, eu llofruddio rhwng Chwefror 10 a 12.

Bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerwysg ddydd Llun (Chwefror 19), lle bydd gwrandawiad cychwynnol yn cael ei gynnal ar Fawrth 21.