David Cameron
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron na fyddai’n cefnogi refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar refferendwm o fewn y misoedd nesaf, ar ôl i ddeiseb ag arni mwy na 100,000 o enwau, gael ei chyflwyno yn galw ar y cyhoedd i gael y cyfle i benderfynu a ddylai gwledydd Prydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion, dywedodd David Cameron nad oedd yn credu y dylai’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw delio â’r argyfwng ym mharth yr ewro a hybu’r economi.
Mae disgwyl i’r mater o gynnal refferendwm gael ei drafod yn Nhy’r Cyffredin cyn y Nadolig. Os ydy’r Aelodau Seneddol yn cefnogi cynnal refferendwm, yna fe fydd yn rhoi pwysau mawr ar David Cameron i gael barn y cyhoedd.
Cydbwysedd
Ond mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd David Cameron: “Dydw i ddim am i Brydain adael yr Undeb Ewropeiadd. Nid dyma’r ateb i Brydain.”
Dywedodd mai’r hyn oedd pobol ei eisiau oedd diwygio’r Undeb Ewropeiadd er mwyn sicrhau bod na fwy o gydbwysedd grym rhwng gwledydd fel Prydain a Ewrop.