Fe fydd y Llywodraeth yn rhyddhau miloedd o aceri o dir er mwyn adeiladu tai, meddai David Cameron ar drothwy cynhadledd y Blaid Gediwadol.

Mae disgwyl i hyd i 100,000 o dai gael eu hadeiladu o dan y cynllun – y bwriad yw darparu mwy o dai fforddiadwy a chynnal tyfiant yn yr economi.

Fe fydd datblygwyr, sydd wedi dioddef yn sgil yr argyfwng economaidd, yn cael y  cyfle i dalu nôl am y tir yn ddiweddarach, ar ôl i’r tai gael eu gwerthu, gan olygu nad oes raid iddyn nhw ddod o hyd i’r arian o flaen llaw.

Yn ôl y Llywodraeth fe fydd y cynllun yn cynnal 200,000 o swyddi.

Fe fydd cynlluniau i hybu’r economi yn cael sylw blaenllaw yn yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym  Manceinion yr wythnos hon.