Fe hawliodd y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, dros £51,000 am draddodi araith y mis diwethaf – ac mae wedi datgelu ei enillion ar gofrestr buddiannau ariannol Aelodau Seneddol.

Fe dderbyuiodd £51,250 gan gwmni Pendulum Events yn Iwerddon am araith yn ninas Dulyn. Ond mae bron i hanner y £94,000 y derbyniodd yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd y llynedd am draddodi araith i gwmni rheoli asedau.

Mae Boris Johnson hefyd yn datgan ar y gofrestr ei fod yn derbyn £22,916.66 y mis am ei golofn ym mhapur newydd The Daily Telegraph – gwaith y mae’n treulio deg awr y mis arno.