Mae’r Deyrnas Unedig wedi taro bargen a fydd yn caniatáu i’w sector yswiriant barhau i fasnachu’n rhydd â’r Swistir wedi Brexit.
Daeth y Canghellor, Philip Hammond, ac Arlywydd y Swistir, Ueli Maurer, i gytundeb yn ystod Fforwm Economaidd y Byd yn Davos.
Bydd y trefniant newydd yn debyg i’r cytundeb Undeb Ewropeaidd-Swistir sydd eisoes yn bodoli, a daw fel rhan o strategaeth Brexit y Deyrnas Unedig.
Y Swistir yw un o’r buddsoddwyr mwyaf yn niwydiant ariannol y Deyrnas Unedig, a bydd y cytundeb newydd yn caniatáu i fusnesau fasnachu’n haws.
“Hollbwysig”
“Mae diwydiant yswiriant y Deyrnas Unedig yn cyfrannu £35 biliwn i’n heconomi, ac yn cyflogi dros 324,000 o bobol,” meddai Philip Hammond.
“Mae cysylltiadau â diwydiannau, gan gynnwys marchnad yswiriant y Swistir, yn bwysig ar gyfer systemau ariannol bydol.
“Ac mae’n hollbwysig bod masnach yn parhau rhwng ein dwy wlad fel bod gan gwmnïau’r sicrwydd sydd ei angen er mwyn parhau i wneud busnes a buddsoddi yn nyfodol y Deyrnas Unedig.”