Dylid gohirio Brexit er mwyn osgoi sefyllfa o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ôl y cyn-ganghellor Torïaidd Ken Clarke.

“Mae’n annhebygol iawn y bydd cytundeb Theresa May yn mynd drwy’r senedd, ac mae arnom angen mwy o amser i gytuno ar y ffordd ymlaen,” meddai ar raglen Today fore heddiw.

“All neb ddelio â ni ar y cyfandir hyd nes y bydd y Prydeinwyr wedi cytuno ymysg ei gilydd ar ryw fath o gonsensws.”

Ei awgrym yw diddymu Erthygl 50, y rhybudd cyfreithiol dros adael yr Undeb Ewropeaidd, hyd nes y gellir cytuno ar fanylion perthynas â Brwsel yn y dyfodol – rhywbeth a allai gymryd blynyddoedd.

Mae’n rhybuddio yn erbyn Brexit heb gytundeb gan ei ddisgrifio fel ‘car crash’, ac mae’n diystyru canlyniad refferendwm 2016 fel “un arolwg barn”.

“Os ydym yn mynnu bod un arolwg barn yn golygu bod yn rhaid inni adael, mae’n rhaid inni leihau’r difrod,” meddai.