Mae cwmnïau gwyliau tramor yn paratoi at benwythnos prysuraf eu calendr wrth i filiynau droi at fwcio gwyliau i leddfu blws y Nadolig.

“Dydd Sadwrn yr Haul” yw enw’r diwydiant teithio ar y ffenomenon, ac mae cwmni Thomas Cook yn disgwyl gwerthu mwy o wyliau ddydd Sadwrn yma (Ionawr 5) nag ar unrhyw ddiwrnod arall yn 2019.

Maen nhw yn disgwyl y bydd dwbl y nifer arferol o bobol  yn bwcio gwyliau.

Yn ôl cyfarwyddwr gwerthiant Thomas Cook, Phil Gardener, yn “draddodiadol” hwn yw’r penwythnos “ble mae’r wlad yn troi ei sylw at eu gwyliau nesaf”.

Mae’r cwmni’n tybio mai Twrci a Thunisia fydd y lleoliadau mwyaf poblogaidd i bobol sydd am gael gwerth eu harian.

Ers y Nadolig, mae canran y bobol sy’n bwcio gwyliau ar-lein gyda Thomas Cook wedi cynyddu 57%.