Mae papurau swyddogol Gweriniaeth Iwerddon wedi dangos y gwrthdaro oedd rhwng Charles Haughey, y Taoiseach, a Margaret Thatcher, pan oedd y ddau mewn grym.

Yn ôl y cofnodion sydd newydd eu cyhoeddi, fe fu tyndra mawr rhwng y ddau mewn cyfarfod ym mis Mehefin 1988, pan oedden nhw’n trafod bygythiad yr IRA yng Ngogledd Iwerddon.

Yn y cyfarfod, roedd Margaret Thatcher yn ddirmygus o heddlu’r Weriniaeth.

“Allwn ni ddim cael ffin agored fel y mae ar hyn o bryd,” meddai hi wrtho. “Mae pentyrrau anferthol o arfau wedi eu cuddio yn rhywle.

“Dydyn ni ddim yn cael gwybodaeth gan y Gardai, dydyn nhw ddim yr heddlu mwyaf proffesiynol.”

Roedd y taoiseach, Charles Haughey, wedi ei hateb yn ôl drwy ddweud:

“Fe gawsoch chi Lisburn. Fe gawsoch chi Enniskillen. Nid ein methiannau ni yw’r rhain.

“Pethau sy’n digwydd o fewn Gogledd Iwerddon yw’r rhain lle mae eich lluoedd diogelwch chi ar waith. Allwn ni ddim cadw patrol ar 500 milltir.”

‘Rhyfel cartref’

Yn yr un cyfarfod, roedd Margaret Thatcher hefyd wedi taflu amheuon ynghylch cred Charles Haughey mewn Iwerddon unedig.

“Rydych chi’n siarad am undod, a dw i’n gofyn i chi a fyddai hynny’n well?” Dw i’n dweud na, byddai’n arwain at y rhyfel cartref gwaethaf mewn hanes,” meddai.

“Ac fe fyddai’n lledaenu i Brydain. Mae eich pobl yn dod atom ni. Byddai’n dda gen i petaen nhw ddim. Maen nhw’n dod i chwilio am dai a gwasanaethau.”

Yn ôl datganiad i’r wasg a gafodd ei gyhoeddi ar y pryd, roedd “llawer o waith defnyddiol” wedi cael ei wneud yn y cyfarfod.