Mae Jeremy Corbyn yn pwyso ar y Prif Weinidog i fyrhau gwyliau Nadolig Aelodau Seneddol ac ail-alw’r Senedd.

Dywed fod angen i ASau allu pleidleisio “cyn gynted â phosibl” ar gytundeb Brexit Theresa May.

Eto i gyd, mae’n gwrthod dweud a fyddai Llafur yn ceisio ymestyn Erthygl 50 er mwyn gohirio ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd, mae ASau i fod i gychwyn dadl ar y cytundeb ar 9 Ionawr, ond dywed Jeremy Corbyn y dylid symud hyn ymlaen wythnos ynghynt.

“Mae angen inni gael pleidlais fel y gall y Senedd wneud penderfyniad,” meddai. “Tric cwbl sinicaidd ar ran y Prif Weinidog ydi oedi i’r eithaf a chynnig dewis o ddau ddrwg i Aelodau Seneddol.”