Ed Miliband
Mae’r arweinydd Llafur wedi mynnu nad yw wedi symud y blaid i’r chwith ar ôl ei araith yn Lerpwl ddoe.

Ar raglen deledy y bore yma, fe ddywedodd Ed Miliband fod Llafur yn aros yn gadarn ar y tir canol.

Ond mae rhai o arweinwyr byd busnes wedi ei gyhuddo o achosi rhaniadau ar ôl dweud fod gwahaniaeth rhwng busnesau sy’n cynhyrchu a rhai sy’n cymryd mantais.

Ymhlith y beirniaid, roedd yr Arglwydd Jones – Digby Jones, cyn bennaeth corff y perchnogion busnes, y CBI, a chyn weinidog Llafur.

Ond, yn ôl Ed Miliband, roedd ei araith yng nghynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn driw i “werthoedd pobol Prydain” trwy fynnu bod cyfrifoldebau ar bawb, gan gynnwys penaethiaid busnes.

Arolwg o’r heddlu

Heddiw, fe fydd y llefarydd Llafur ar faterion cartref yn cyhoeddi eu bod am gynnal arolwg o blismona yng Nghymru a Lloegr.

Cyn bennaeth Heddlu Llundain, Syr Paul Stevens, fydd yn cadeirio’r Comisiwn sydd, yn ôl y llefarydd, Yvette Cooper, yn angenrheidiol i addasu gwaith yr heddlu ar gyfer y ganrif newydd.