Mae Theresa May wedi gosod amserlen ar gyfer trafod ei chynllun Brexit gydag Aelodau Seneddol ym mis Ionawr.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai Tŷ’r Cyffredin yn cael y cyfle i drafod ei chynllun yn yr wythnos y bydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i San Steffan ar ôl y Nadolig ar 7 Ionawr.

Fe fydd y bleidlais dyngedfennol, a gafodd ei gohirio yn gynharach yn y mis, bellach yn cael ei chynnal yr wythnos ganlynol ar 14 Ionawr.

Dywedodd Theresa May wrth y Tŷ: “Mae ychydig dros 14 wythnos i fynd nes bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac rwy’n gwybod bod nifer o aelodau’r Tŷ yn bryderus bod angen i ni wneud penderfyniad yn fuan.”

Daeth ei chyhoeddiad ar ôl i arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn fygwth cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog os nad oedd hi’n fodlon pennu dyddiad ar gyfer y bleidlais.

Fe gyhuddodd Theresa May o achosi “argyfwng cyfansoddiadol.”

Yn y cyfamser mae’r Cabinet yn ceisio cynllunio ar gyfer y camau nesaf os yw’r cynllun yn cael ei wrthod.

Mae Theresa May eisoes wedi rhybuddio yn erbyn galwadau i gynnal ail refferendwm ar Brexit gan ddweud y byddai’n “hynod niweidiol.”