Fe fydd Llywodraeth Prydain yn annog cynghorau lleol i gyhoeddi strategaethau y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd erbyn 2027.
Bydd gofyn iddyn nhw amlinellu’r cymorth a fydd ar gael, gan gynnwys cefnogaeth arbenigol a llety, meddai Ysgrifennydd Tai San Steffan, James Brokenshire.
Fe fydd hyfforddwyr gwaith hefyd ar gael mewn canolfannau gwaith, ac ymchwil yn cael ei gwblhau i ddarganfod y cyswllt rhwng digartrefedd a’r gymuned LGBT.
Mae cronfa gwerth £11m hefyd wedi’i chyflwyno i helpu cynghorau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
‘Does dim angen i unrhyw un gysgu ar y stryd’
“Nid tynged unrhyw un yw treulio’u bywydau’n cysgu ar y stryd. Er gwaethaf hyn, mae gormod o bobol yn dal yn cysgu ar y stryd bob nos,” meddai James Brokenshire.
“Dyna pam ein bod yn gweithredu i gynnig cefnogaeth i gael pobol oddi ar y stryd y gaeaf hwn a gosod y seiliau i roi’r gorau i gysgu ar y stryd yn gyfangwbl erbyn 2027.
“Mae’r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu’r camau nesaf i droi’r nod yma’n realiti.”
Bydd Cynllun Gweithredu Cysgu ar y Stryd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun.
Cynghorau’n croesawu’r cyhoeddiad
Mae’r Gymdeithas Lywodraeth Leol wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Prydain.
“Bydd unrhyw fuddsoddiad ychwanegol yn helpu’r ymdrechion lleol i herio digartrefedd a chysgu ar y stryd,” meddai Martin Tett.
“Mae cynghorau’n benderfynol o atal digartrefedd a chysgu ar y stryd rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac o gefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio.
“Mae hyn yn dod yn gynyddol anodd gyda gwasanaethau digartrefedd yn wynebu bwlch ariannu o fwy na £100m yn 2019-20.
“Mae rhoi adnoddau go iawn i ariannu llywodraeth leol yn hanfodol os ydyn ni am roi terfyn ar y cynnydd mewn digartrefedd.”
Ymateb Shelter
Tra bod elusen Shelter yn croesawu’r cyhoeddiad, maen nhw’n rhybuddio nad yw’n datrys y sefyllfa’n llwyr.
“Mae angen o hyd i ni herio diffyg tai fforddadwy a materion yn ymwneud â budd-dal tâi sydd wrth wraidd y broblem hon,” meddai Greg Beales, cyfarwyddwr ymgyrchoedd yr elusen.
“Os yw’r llywodraeth hon eisiau dileu cysgu ar y stryd erbyn 2027, mae angen cynllun newydd cryf i adeiladu llawer iawn mwy o dai cymdeithasol, yn ogystal ag ymdrech i greu sicrwydd i’r rhai sy’n cael anawsterau gyda’u rhent.”